Cerdyn Post o Farcelona

Detholwyd Llŷr Gwyn Lewis fel un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop 2017. Darllenwch ei gerdyn post o Ŵyl lenyddol Kosmopolis a gynhaliwyd ym Marcelona rhwng 22-26 Mawrth 2017.

Braf ar un lefel; ydi deall nad oes fawr o ots gan weddill Ewrop ein bod ar fin gadael yr UE. Maen nhw’n ein gweld ni’n ffôl, ond mae ganddyn nhw broblemau eraill i boeni eu gylch.

Mae eraill o’r cwmni eisoes wedi mynd am Lundain i farstio dros y ddelfryd sy’n dal yn realiti yma; bore fory, aiff L a minnau’n ôl i Fryste, i Gaerdydd, ac at sbarduno Erthygl 50.

Ond dydan ni ddim wedi gadael Ewrop, a wnawn ni ddim chwaith. Cyn belled ag y cawn ddod i Barcelonas y byd, i rannu straeon a cherddi a bwyd a diod ac enwau lleoedd, mae Cymru, a’r Gymraeg, eto’n rhan o Ewrop.

Cofion cynnes,

Llŷr