Fis Hydref teithiodd Siân Northey i ŵyl IFOA (International Festival of Authors) yn Toronto, Canada. Bu Siân yn darllen ei gwaith mewn digwyddiad arbennig dan y teitl ‘Around the World’ ble bu awduron o dri chyfandir a naw gwlad yn trafod eu gwaith. Cefnogwyd ei hymweliad gan y Cyngor Prydeinig yng Nghanada.
Shekon Mari,
Dyma gerdyn o Ganada, gwlad llawn croeso.
1. IFOA Toronto yn trefnu trip i Niagra i’r awduron (a’n llenwi â bwyd a diod!)
2. Cynhadledd Ieithoedd Brodorol sweetgrass yn estyn gwahoddiad i ddarllen cerdd yn y cinio i anrhydeddu ymgyrchwyr ac athrawon iaith (a’n llenwi â bwyd a diod!)
3. Cael aros yng nghartref aelod o lwyth y Mohawk sy’n dysgu Cymraeg (a’n llenwi â bwyd a diod!)
Cofion,
Siân
Detholwyd Rhyd-y-gro gan Sian Northey i Silff Lyfrau 2016, detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor. Darllenwch fwy yma.