Siân Melangell Dafydd sy'n anfon gair o Ffair Lyfrau Brwsel fis Chwefror 2014. Bu Siân yn cymryd rhan, ynghyd â Patrick McGuinness, yn rhaglen Prydain fel gwlad wadd yn y ffair eleni. Darllenwch fyfyrdodau Siân ar ei hymweliad yma: 'Mae teithio bob amser yn gwneud i mi feddwl am Lemminkäinen yn y Kalevala a'r modd mae ei fam yn gorfod casglu ynghyd yr holl ddarnau ohono a'u gweu'n ôl at ei gilydd.' Mwy am y digwyddiad yn ein hadran ddigwyddiadau.