Fideos gan awduron Cymreig a grëwyd yn ystod cyfnod clo Covid-19.
Ar adeg pan na allwn deithio, a pan fo cyfnewid llenyddol yn anoddach nag erioed, gwahoddodd Cyfnewidfa Lên Cymru awduron Cymreig i rannu darlleniadau o’u gwaith i ddarllenwyr a chyhoeddwyr pell ac agos eu mwynhau.
Byddwn yn parhau â’r gyfres drwy ychwanegu fideos gan awduron cyfoes Cymreig a ddewiswyd i’n Silff Lyfrau, a gyhoeddir yn Ffair Lyfrau Frankfurt ym mis Hydref 2020.