Angharad Price

Angharad Price

 Angharad Price

Magwyd Angharad Price ym Methel ger Caernarfon. Graddiodd mewn Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen lle cwblhaodd hefyd ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Celtaidd. Bu'n ddarlithydd ym mhrifysgolion Fienna, Abertawe a Chaerdydd cyn mynd i Brifysgol Bangor lle mae hi bellach yn Athro mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol.

Mae'n awdur nifer o gyfrolau academaidd, cyfrolau o ysgrifau a thair nofel. Enillodd O, Tyn y Gorchudd (Gomer, 2002) y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003; mae wedi ei chyfieithu i chwech o ieithoedd (Saesneg, Almaeneg, Rwmaneg, Sbaeneg, Bengaleg a Chatalaneg). Cyrhaeddodd y nofel Caersaint (y Lolfa, 2010) restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011, ac enillodd y gyfrol academaidd, Ffarwél i Freiburg, wobr Ellis Griffith Prifysgol Cymru yn 2013.

Cyfrol ddiweddaraf Angharad yw Ymbapuroli (Gwasg Carreg Gwalch, 2020), casgliad o ddeuddeg o ysgrifau am amrywiol bynciau o Jan Morris i Gapel Bethel ac o Gaergybi i Ngugi wa Thiong'o. Cyrhaeddodd y gyfrol hon restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2021 ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau yn 2021.

Yn 2003, teithiodd i nifer o wyliau llenyddol ar draws Ewrop fel un o'r awduron a ddewiswyd ar gyfer y prosiect Scritture Giovani, ac yn 2014 enwebwyd hi gan Gyfnewidfa Lên Cymru, a’i dethol gan Y Gymdeithas Awduron Ewropeaidd ynghyd â naw o awduron Ewropeaidd i gyfrannu at Restr Finnegan. Mae Angharad yn gyfieithydd profiadol i'r Gymraeg o Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg. Yn 2014 dyfarnwyd iddi Fedal Glyndwr am ei chyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru.

Gwyliwch Angharad yn trafod ac yn darllen darn o'i nofel, O! Tyn y Gorchudd, yma.