Our Bookshelf

Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.

yn ôl
Nelan a Bo Angharad Price

Nelan a Bo(Nelan and Bo)

Rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2024

Mae cymeriadau byw a rhyddiaith atgofus Angharad Price yn cyflwyno stori sy'n trafod hunaniaeth a pherthyn yn ystod cyfnodau o aflonyddwch hanesyddol.

Nelan a Bo
yw ail nofel hanesyddol Angharad Price. Gan agor yn 1799, dyma nofel sydd wedi'i gosod mewn cyfnod o newid cymdeithasol mawr. Mae'r tir yn cael ei gau. Mae'r chwyldro diwydiannol ar droed. Mae anghydffurfiaeth yn ennill ei lle.

Pa ffawd sy'n aros gwerin cefn-gwlad? Ond mae hon hefyd yn stori gariad, a hwnnw'n mynd o'r crud i'r bedd, a'i liwiau cyfnewidiol yn creu patrymau blêr o ystyr ac o deimlad ar gynfas lom y rhostir.

Adolygiadau

“Bendigedig! Wnes i wirioni, roedd o’n annwyl, ac rwyt ti efo’r cymeriadau pob cam o’r ffordd. Mae’n nofel reit dywyll ond ‘na lot natur ynddi sy’n gwneud i chi deimlo yn gynnes.”

Manon Steffan Ros