Dewi Prysor

Dewi Prysor

 Dewi Prysor

Magwyd Dewi Prysor yng Nghwm Prysor ger Trawsfynydd. Mae'n byw yn Llan Ffestiniog gyda'i wraig, Rhian a'u plant. Mae'n saer maen, yn fardd, cyfansoddwr ac awdur. Mae tair o'i nofelau, Brithyll, Madarch a Crawia (Y Lolfa) yn ffurfio trioleg. Cafodd ei bedwaredd nofel, Lladd Duw, ei dewis ar gyfer rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2011 ac ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2011 y Gyfnewidfa, ac enillodd wobr Barn y Bobl Golwg 360.

Mae Dewi Prysor hefyd wedi cyhoeddi Cig a Gwaed (Y Lolfa, 2012), Rifiera Reu (Y Lolfa, 2015) ac Ibuprofen S’il Vous Plaît (Y Lolfa, 2016).