'Dydi Dewi Prysor ddim yn credu mewn mynd hanner y ffordd. Mae e’n eithafwr llenyddol. Ei athroniaeth yw ‘Popeth neu ddim’. Ac mae ei epig ddiweddaraf yn adlewyrchu ei athroniaeth yn berffaith. Mae hi’n nofel ddu ac yn nofel ddoniol, yn gignoeth ac yn deimladwy, yn gwrs ei hiaith ond eto’n meddu ar ryw brydferthwch anesboniadwy fel harddwch blodau ar wyneb cors ddiwaelod. Ac, yn anad dim, mae hi’n nofel gyffrous.'
Gwales
'Bron bod y ffordd mae'r awdur yn datgelu eu hanesion unigol yn ddigon i godi deigryn ac yn eich synnu beth fyddai'n digwydd flynyddoedd yn ôl y tu ôl i ddrysau caeedig - hyd yn oed heddiw tasa hi'n mynd i hynny.'
BBC Wales
Dyma nofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch, Brithyll a Crawia. Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi'i lleoli yn Llundain a thref glan y môr ddychmygol. Mae'n ymdrin â chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, ceir digon o hiwmor ynddi hefyd.
192pp
Garmon Gruffydd
Y Lolfa, Talybont
Ceredigion SY24 5AP
Cymru/Wales, UK
garmon@ylolfa.com
www.ylolfa.com
T +44 (0)1970 832 304
M +44 (0)7821 083 989
'Dydi Dewi Prysor ddim yn credu mewn mynd hanner y ffordd. Mae e’n eithafwr llenyddol. Ei athroniaeth yw ‘Popeth neu ddim’. Ac mae ei epig ddiweddaraf yn adlewyrchu ei athroniaeth yn berffaith. Mae hi’n nofel ddu ac yn nofel ddoniol, yn gignoeth ac yn deimladwy, yn gwrs ei hiaith ond eto’n meddu ar ryw brydferthwch anesboniadwy fel harddwch blodau ar wyneb cors ddiwaelod. Ac, yn anad dim, mae hi’n nofel gyffrous.'
Darllenwch fwy o adolygiadauGwales