Daw Eurgain o Benisarwaun yn Eryri ond mae'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gŵr a'u dau o blant a chi bach annwyl. Mae hi wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Môn a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau i blant a straeon byrion ar gyfer oedolion. Mae'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru. Y Morfarch Arian oedd enillydd y Fedal Ryddiaith 2024.