Matthew Francis

Matthew Francis

Ewch i'r Wefan
 Matthew Francis

Mae Matthew Francis yn fardd, nofelydd, awdur straeon byrion ac yn feirniad llenyddol. Mae'n Athro mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn ymddiddori mewn barddoniaeth a llenyddiaeth gyfoes ac o’r ugeinfed ganrif, yn enwedig y bardd Albanaidd o’r 20fed ganrif, W. S. Graham.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, WHOM, gan Bloomsbury yn 1989, a chyrhaeddodd Blizzard (1996) restr fer Gwobr Forward ac enillodd y Wobr Southern Arts. Cyrhaeddodd Dragons (2001) restr fer Gwobr Forward a Llyfr y Flwyddyn Cymru. Ef yw golygydd New Collected Poems W. S. Graham (Faber, 2004), ac mae wedi cyhoeddi astudiaeth o Graham, Where the People Are (Salt, 2004).

Enwyd ef yn un o Feirdd y Genhedlaeth Nesaf gan The Poetry Book Society yn 2004. Cafodd Mandeville (2008), casgliad o farddoniaeth a ysbrydolwyd gan yr ysgrifennydd teithiol o’r canoloesoedd, Syr John Mandeville, adolygiadau anhygoel yn The Observer a The Guardian. Cyrhaeddodd ei gasgliad o straeon byrion, Singing a Man to Death (Cinnamon), restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2013. Cyhoeddwyd The Book of the Needle, sydd wedi ei lleoli yng Nghymru a Llundain y 17eg ganrif, yn 2014.

Cyhoeddwyd ei fersiwn farddonol o’r Mabinogi, The Mabinogi (Faber), fis Mehefin 2017, a detholwyd ef ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017.

Dewiswyd ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth, Wing (Faber, 2020), i'n Silff Lyfrau 2020–21. Gwyliwch Matthew yn trafod y gyfrol ac yn darllen cerddi ohoni yma.

Silff Lyfrau