Mae Gwenno Gwilym yn hanu o Ddyffryn Conwy ond bellach yn byw yn Nyffryn Ogwen, Gogledd Cymru. Mae hi'n mwynhau ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, yn aml mewn cyfuniad o'r ddwy iaith. Yn ddiweddar enillodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor. Cyhoeddwyd ei barddoniaeth yn Poetry Wales, Cyhoeddiadau'r Stamp, a Culture Matters. V + Fo yw ei nofel gyntaf.