Mererid Hopwood

Mererid Hopwood

Ewch i'r Wefan
 Mererid Hopwood

Mererid Hopwood, wrth gwrs, yw un o feirdd enwocaf Cymru, a’r unig fenyw i ennill tair prif gystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Treuliodd gyfnod fel Bardd Plant Cymru a dyfarnwyd y wobr Glyndŵr iddi am ei chyfraniad i lenyddiaeth. Enillodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Nes Draw (Gomer, 2015) wobr Categori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn, 2016 ac roedd ar restr silff lyfrau CLC yn 2016. Mae hi’n ysgrifennu yn y Gymraeg yn bennaf ac wedi dysgu trwy gydol ei gyrfa, ac mae ganddi raddau mewn iaith a llenyddiaeth Sbaeneg ac Almaeneg. Hi oedd Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli 2020-2021. Mae hi wedi cyfieithu gwaith o’r Almaeneg i'r Gymraeg fel Der kaukasische Kreidekreis gan Brecht ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru, ac mi wnaeth hi hefyd ennill her gyfieithu Translators’ House yn 2013. Roedd ei chyfrol ffeithiol-greadigol, Dychmygu Iaith (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022) ar restr silff lyfrau CLC yn 2022. Mae (Barddas, 2025) yw ei hail gyfrol o gerddi.

Yn 2003, ymddangosodd ei cherdd ‘Dadeni’ yn y ffilm Dal Yma: Nawr, a oedd yn cynnwys yr actorion a’r cerddorion Siân Phillips, Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a Rhys Ifans.

Mae hi’n gweithio’n ddiflino i geisio gwneud y gynghanedd yn fwy poblogaidd, yn enwedig ymysg merched a phobl ifanc, a hi oedd Bardd Plant Cymru yn 2005.

Dewiswyd hi gan y Gyfnewidfa i gyfrannu yn y gweithdy cyfieithu Writers’ Chain cyntaf a gynhaliwyd yn India yn 2008 lle y cydweithiodd â beirdd o’r DU ac India.

Mae hi wedi bod yn dysgu am ran helaeth o’r ddeng mlynedd ar hugain diwethaf ym maes iaith a llenyddiaeth, gan ddysgu mewn pob math o amgylchiadau, o brifysgol i ysgol nos, o gyrsiau i’r plant lleiaf i ddisgyblion uwchradd.

Enillodd Wobr Emyr Humphreys PEN Cymru yn 2020, a hi oedd beirniad Her Gyfieithu 2020.

Ers Ionawr 2021, mae'n Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.