Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
‘Mae’r byd i gyd o fewn cloriau’r gyfrol bwerus hon. Mae cerddi Mererid Hopwood yn ddirdynnol, yn annwyl, yn llawn cariad ac empathi at ei chyd-ddyn, heb fod ofn wynebu gwirioneddau anodd ein byd.’
Manon Steffan Ros
‘Casgliad cain sy’n troelli’n dyner o amgylch craidd ein bod. Dyma gerddi sy’n atseinio holl nodau symffoni byw, gan ddathlu a choffáu hanes cenedl a phrofiad personol clòs. Cawn ein tywys trwy golled a chariad, tir a theulu, iaith a hunaniaeth, a chariad gobaith yn gynghanedd ysblennyd trwy bob pennill.’
Gareth Bonello
‘Rhoddir yn y gyfrol hon y teimlad o ymlwybro’n ysgafndroed i lawr at gwm wedi’i greu o gerddi, a’n tywys yn garedig tuag at galon ein seice cenedlaethol, at ddyfnderoedd yr anymwybod Cymreig – lle cynnes, cysurlon a chadarn, llawn cariad.’
Gwenno Saunders
‘Cyfrol eithriadol o delynegion, englynion a damhegion: cerddi annwyl ac awdurdodol; cerddi sy’n credu yng ngallu iaith i ddod â phobl at ei gilydd a pheri iddyn nhw ddychmygu gwell byd.’
Ceri Wyn Jones
Dyma ail gyfrol hirddisgwyliedig y Prifardd Mererid Hopwood ac mae’n troi ar echel y ferf ‘i fod’. Mae’r ferf hon yn angori deng mlynedd o gerddi caeth a rhydd ers cyhoeddi Nes Draw (Gomer, 2015), a enillodd Categori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2016, ac yn canu am heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchedd, colled a bod yn fam ac yn fam-gu.
Mae llonyddwch creiddiol yn perthyn i’r cerddi hyn, gwreiddio bron, wrth iddynt gydblethu rhwng galar a gorfoledd a’r personol a chyhoeddus. Mae’r gerdd ‘Ac fe’u henwaf eto’ yn cyfeirio at ‘blant y tonne’, enw roedd ei nain a’i modryb yn arfer galw arni hi a’i chefndryd wrth iddynt gael eu magu. Mae’r enw wedi cario drwy genedlaethau ei theulu, a bellach mae ei gorwyrion a’i gorwyresau yn cario’r tonnau. Mae ‘Rhannu Iaith’, ar y llaw arall, yn canghennu y tu hwnt i'r personol ac yn ystyried y modd mae iaith yn ein cysylltu a’n huno, tra mae ‘Aber Bach’ yn gerdd amlieithog sy’n dangos rhyngweithiad rhwng y Gymraeg, Saesneg, Almaeneg ac Arabeg ac yn rhyfeddu ar y modd y gall ieithoedd rannu’r un synau ond arwyddocáu ystyron gwahanol.
Heb os, ysgrifenna Mererid Hopwood am amwysedd bywyd gyda chynhesrwydd a phersbectif, gan wahodd y darllenydd i werthfawrogi symlrwydd y pethau bychain: o berthyn ac o fod.
9781911584964
116pp
Bethany Celyn: bethanycelyn@barddas.com
‘Mae’r byd i gyd o fewn cloriau’r gyfrol bwerus hon. Mae cerddi Mererid Hopwood yn ddirdynnol, yn annwyl, yn llawn cariad ac empathi at ei chyd-ddyn, heb fod ofn wynebu gwirioneddau anodd ein byd.’
Darllenwch fwy o adolygiadauManon Steffan Ros