Jo Heyde

Jo Heyde

Yn wreiddiol o Lundain, trodd Jo Heyde at ysgrifennu barddoniaeth ar ôl dysgu Cymraeg. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn Ffosfforws 2-5, cylchgrawn Barddas, a chylchgrawn Modron, a chyhoeddwyd ei phamffled cyntaf, Cân y Croesi (Cyhoeddiadau'r Stamp) yn 2024. Mae hi'n cydlynu rhaglen Beirdd y Mis BBC Radio Cymru i Barddas, ac yn aelod o Ysgol Farddoniaeth Caerfyrddin lle dysgodd gynganeddu a thîm Y Derwyddon ar gyfres Y Talwrn BBC Radio Cymru. Cafodd ei henwebu ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2021.