Meleri Wyn Davies

Meleri Wyn Davies

Bardd a llenor sy'n byw a gweithio yn Nyffryn Ogwen yw Meleri Davies. Mae wedi cyhoeddi ei gwaith mewn nifer o gyfnodolion a cyhoeddwyd ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth Rhuo ei distawrwydd hi gyda Cyhoeddiadau'r Stamp (2024). Enillodd y gyfrol honno Wobr Llyfr y Flwyddyn 2025 yn y categori barddoniaeth Gymraeg ac mae'r gyfrol wedi ei hail-argraffu bedair gwaith mewn cyfnod o 9 mis. Mae Meleri yn angerddol am gymunedau, cynaladwyedd a chreadigrwydd. Mae hi bellach yn ymgyngorydd datblygu cymunedol llawrydd ac yn ymarferydd creadigol, ac yn rheoli a chynllunio prosiectau ac yn hwyluso gweithdai ysgrifennu creadigol.