Mihangel Morgan

Mihangel Morgan

 Mihangel Morgan

Ganwyd Mihangel Morgan yn Aberdâr yn 1955. Tra bu'n byw yng Ngheredigion bu'n darlithio ar lenyddiaeth Gymraeg yr 20fed ganrif ac ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth tan yn ddiweddar.

Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol gyda'i nofel gyntaf, Dirgel Ddyn (Gomer, 1993), ac o hynny ymlaen prysur datblygodd yn un o awduron cyfoes mwyaf blaengar y Gymraeg. Mae'n un o awduron mwyaf toreithiog, gwreiddiol a phoblogaidd Cymru. Mae wedi cyhoeddi nofelau, cyfrolau o straeon byrion a chyfrolau o gerddi.

Heria'r sefydliad Cymreig yn ei waith ac mae nifer o'i gymeriadau yn bobl ddi-asgwrn cefn yn byw mewn byd anghyflawn. Ceir elfen ôl-fodernaidd i'w ryddiaith, yn yr ystyr Cymreig ac Eingl-Americanaidd.

Mae cyhoeddiadau Mihangel Morgan yn cynnwys:

  • Melog (Gomer, 1997), a gyfieithwyd i’r Saesneg gan y nofelydd a’r bardd Christopher Meredith, a’i gyhoeddi gan wasg Seren yn 2005.
  • Pantglas (Y Lolfa, 2011), a gyrhaeddodd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2012.
  • Kate Roberts a'r Ystlum a dirgelion eraill (Y Lolfa, 2012).
  • 60 (Y Lolfa, 2017). Detholwyd y casgliad hwn o straeon byrion ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017.
  • Hen Ieithoedd Diflanedig (Barddas, 2018), sy’n gasgliad o gerddi.
  • Hen Bethau Anghofiedig (Y Lolfa, 2017), sydd ar Silff Lyfrau 2018.
  • Hen Ieithoedd Diflanedig (Barddas, 2018), sydd ar Silff Lyfrau 2019.

Mae rhestr lawn o’i gyhoeddiadau ar gwales.com.