Mae Morgan Owen, sy'n hanu o Ferthyr Tudful, yn gweithio fel ysgrifennwr a chyfieithydd llawrydd, ac yn cyfrannu yn gyson at gyhoeddiadau megis O’r Pedwar Gwynt, Barddas ac Y Stamp.
Graddiodd gyda MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y Y Senedd i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad.
Ym mis Hydref 2018, roedd yn un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru. Yn 2019, fe'i penodwyd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Ionawr, ac roedd yn rhan o gynllun Awduron wrth eu Gwaith/Writers at Work Gŵyl y Gelli yn 2019.
Ef oedd enillydd yr Her Gyfieithu flynyddol yn 2019.
Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys: