Twm Morys

Twm Morys

 Twm Morys

Mae Twm Morys yn awdur dwy gyfrol o farddoniaeth, Ofn fy Het a'r gyfrol, 2, yn ogystal â chyfrolau ar y cyd â Jan Morris: Wales, the First Place (Random House, 1982) a A Machynlleth Triad/Triawd Machynlleth (Penguin, 2004). Ein Llyw Cyntaf (Gomer, 2001) yw ei addasiad Cymraeg o nofel Jan Morris, Our First Leader (Gomer, 2000).

Yn ogystal â'r cerddi yn y ddwy gyfrol, mae Twm Morys yn awdur ysgrifau o bwys ac aml i englyn a rhigwm byrfyfyr. Mae hefyd yn gyfansoddwr caneuon y mae yn eu canu gyda'r grwp 'Bob Delyn a'r Ebillion'. Cafodd ei ddewis yn Fardd Plant Cymru 2009-10 ac enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2003 am ei awdl 'Drysau' sydd yn trafod gwerthu a phrynu eiddo ac etifeddiaeth y Cymry.

Mae ffraethindeb a chynildeb ei farddoniaeth yn destun edmygedd. Mae iaith ei farddoniaeth yn deillio ar y naill law o draddodiad yr hen gywyddwyr fu yn ymryson ac yn canu cyn darfod o'r hen drefn wleidyddol Gymreig. Ar y llaw arall, mae'i ddull o gyfansoddi yn fodern ac yn gyfamserol. Mae'n adlewyrchu teithiau'r Gymraeg yn y byd sydd ohoni, ac mae adlais realiti cyfoes yn ei eiriau.

Bu cerdd y Cymro yn gyfle erioed i watwar ac i ddychanu ac yn rhan o hwyl gynhenid y genedl. Dychanwr heb ei ail yw'r Prifardd Twm Morys, ac yn athrylith dwys iawn ei feddwl. Wedi cyfnod o ddeng mlynedd yn byw yn Llydaw ac yn darlithio ym Mhrifysgol Rennes, mae'n byw yn Llanystumdwy, Eifionydd, ac ers 2011 mae'n olygydd y cylchgrawn Barddas.

Cynnwys Cysylltiedig