Argraffiadau yn Kerala

Argraffiadau yn Kerala

30 Tachwedd 2011

Cadwyn Awduron India-Cymru yn Thiruvananthapuram

Fis Tachwedd, dychwelodd y beirdd Siân Melangell Dafydd, Robert Minhinnick, Twm Morys ac Eurig Salisbury o Kerala wedi wythnos yn cydweithio gyda phedwar bardd o India: y bardd Malayali byd-enwog, K. Satchidanandan, y bardd Hindi o Delhi, Anamika; Sampurna Chattarji, sy'n barddoni mewn Saesneg ond yn cyfieithu i'r Bengali, tra'n byw bellach yn Mumbai, a'r bardd a'r cyfieithydd Malayali, Anitha Thampi.

Cafodd y gweithdy ei arwain gan Gyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, Sioned Puw Rowlands, ac roedd yn gyfle i archwilio beth sy'n digwydd wrth i lenyddiaeth symud i ieithoedd a thiriogaethau anghyfarwydd. Bu'n gyfle hefyd i ddatblygu ymhellach y cydweithio a ddechreuwyd yn gynharach yn y flwyddyn pan ddaeth y Gyfnewidfa â saith o feirdd ynghyd mewn gweithdy ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Nhŷ Newydd, Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol. Ymunodd Menna Elfyn, Eurig Salisbury, Hywel Griffiths a Karen Owen gyda K. Satchidanandan, Sampurna Chattarji a Robin Ngangom o Shilong yn y gogledd ddwyrain.

Yn ystod y gweithdy a gynhaliwyd ar gyrion Thiruvananthapuram, croesawyd y beirdd gan y Gowry Arts Institute yn y bryniau uwchben y dref, a bu cyfle i gyfarfod gyda beirdd lleol a recordio cyfweliadau. Yn ogystal â chreu cyfieithiadau o gerddi ei gilydd crewyd gwaith newydd gan y beirdd. Crewyd perfformaid amlieithog yn ystod yr wythnos i'w berfformio yn ail ŵyl y Gelli yn Kerala (Tachwedd 2011). Cafwyd ail ddigwyddiad ar ffurf trafodaeth. Mae'r beirdd bellach wrthi'n gweithio ar drosi eu cyfieithiadau'n flodeugerddi yn yr amrywiol ieithoedd.

Y gweithdy oedd y datblygiad diweddaraf yng Nghadwyn Awduron India-Cymru Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda'r Cyngor Prydeinig a'r Gyfneiwdfa Lên, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

Oriel Gysylltiedig