Llwyd Owen

Owen, Llwyd

Mae Llwyd Owen wedi bod yn awdur cynhyrchiol iawn ers iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau yn 2006. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007. Ers hynny, mae’r awdur wedi cyhoeddi nofel y flwyddyn ar gyfartaledd, tra hefyd yn gweithio fel cyfieithydd, sgriptiwr ysbeidiol, cyflwynwr teledu, ac yn fwy diweddar, creawdwr y bodlediad ‘Does dim gair Cymraeg am RANDOM’.

Mae Llwyd wedi cyfieithu ac addasu dau o’i nofelau i’r Saesneg, tra bod sawl darn o’i waith wedi cael eu haddasu ar gyfer y radio a'u perfformio ar y llwyfan cenedlaethol. Gwnaeth Owen ei hun fentro i’r llwyfan (fel actor ac ysgrifennydd) am y tro cyntaf yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd yn 2018.

Mae ei nofel ddiweddaraf, Pyrth Uffern, wedi cael ei ddewis i’r Silff Lyfrau 2018.

Website

Visit website

Llyfrau gan yr un awdur