Nofel rymus, ddirfawr sy'n llawn datblygiadau annisgwyl. Mae'r stori yn troi o gwmpas Alun Brady, dyn sydd wedi byw bywyd tawel a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yng Nghaerdydd. Ond pan ddaw ei dad-cu drygionus i fyw ac i farw gyda'r teulu, dyma ddechrau ar newidiadau enfawr a dyfodiad cymeriadau lliwgar i fywyd Alun. Nofel am yr hyn sy'n tarfu ar dawelwch undonog bywyd.
Cyfieithiodd Llwyd Owen ei nofel i'r Saesneg, gan gyhoeddi Faith, Hope Love (Alcemi) yn 2010.