Richard Gwyn

Richard Gwyn

Ewch i'r Wefan
 Richard Gwyn

Cafodd Richard Gwyn ei eni a'i fagu yn ne Cymru ac mae'n adnabyddus fel bardd, awdur a chyfieithydd. Mae wedi cyhoeddi pum cyfrol o farddoniaeth ac wedi golygu blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg newydd. Mae wedi byw am gyfnodau yng Nghatalwnia, Groeg a Ffrainc a bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae'n dysgu ysgrifennu creadigol a beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd. The Colour of a Dog Running Away (Parthian, 2005) oedd ei nofel gyntaf ac fe fu'n un o lyfrau'r flwyddyn gan yr Independent a Waterstones ac enillodd wobr ffuglen Cyngor Llyfrau Cymru. Cyhoeddwyd ei ail nofel, Deep Hanging Out (Snowbooks) yn 2007. Mae ei gyfrol ddiweddaraf - ysgrifol y tro hwn - The Vagabond's Breakfast (Alcemi, 2011) yn ymdrin â salwch, teithio ac ysgrifennu. Cafodd ei dewis ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2011.

Darllenwch flog Ricardo Blanco, alter ego Richard Gwyn, yma.

Gwyliwch Richard yn trafod ac yn darllen darn o'i lyfr, The Blue Tent, yma, ac yn trafod ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Stowaway: A Levantine Journey, ac yn darllen tair cerdd o'r casgliad, yma.