Morten Søndergaard

Morten Søndergaard

 Morten Søndergaard

Mae Morten Søndergaard (g. 1964) yn un o feirdd mwyaf blaenllaw y genhedlaeth a ddaeth i'r amlwg ddechrau'r 90au yn Nenmarc. Cyhoeddwyd casgliad cyntaf Søndergaard, Sahara i mine hænder (Sahara yn fy Nwylo) yn 1992. Cyhoeddwyd wedi hynny ddilyniant o weithiau sydd wedi ennill clod gan feirniaid a nifer o wobrau llenyddol.

Cyfrwng a métier Morten Søndergaard yw iaith. Mae'n ymarfer nid yn unig fel bardd, ond hefyd fel cyfieithydd, artist sain a golygydd llenyddol. Ac er bod ei grefft wedi ei gwreiddio'n gadarn yn y traddodiad barddoniaeth glasurol mae wrthi o hyd yn archwilio posibiliadau iaith a ffyrdd newydd o gyflwyno'r rhain.

Dros y blynyddoedd, ochr yn ochr â'i gyhoeddiadau ysgrifenedig, mae hyn wedi arwain at waith cerddorol a dramatig, at recordiadau, arddangosfeydd a gosodiadau sy'n canolbwyntio ar iaith a sain. Cyhoeddiad diweddaraf Morten Søndergaard yw Processen og det halve kongerige (Y Broses a Hanner y Deyrnas, 2010).

Cydweithiodd Twm Morys ag ef yn 2012 ar drosi ei waith, Y Fferyllfa Eiriau, i'r Gymraeg. Bydd yn cael ei harddangos yng Ngaleri Penrallt, Machynlleth yn yr Hydref.