20 Medi 2012
Bydd rhaglen anghyffredin yn cwmpasu Machynlleth, Aberystwyth, Bangor a’r Wyddgrug gan fynd â barddoniaeth ar daith gynhyrfus, gyda’r digwyddiadau y tro hwn yn gadael diogelwch siopau llyfrau a llyfrgelloedd, am y Pier ym Mangor a siopau’r stryd fawr yn ogystal ag amgueddfeydd, prifysgolion a theatrau.
Cynhelir darlleniadau ym mamiaith y beirdd, gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg a’r Saesneg. Bydd beirdd o Gymru hefyd yn cymryd rhan yn y ddwy iaith – gan ddod â dimensiwn lleol i’r cynulliad rhyngwladol hwn.
Mae’r rhestr drawiadol o awduron yn cynnwys: Eduard Escoffet (Catalonia); Estíbaliz Espinosa (Galicia); Julia Fiedorczuk (Gwlad Pŵyl); Katerina Iliopoulou (Groeg); Cia Rinne; (Sweden/Y Ffindir/Yr Almaen); Morten Søndergaard (Denmarc); Jeroen Theunissen (Gwlad Belg); Anja Utler (Yr Almaen) a Yu Jian (Tseina).
Ymysg y beirdd o Gymru mae Tony Conran, Samantha Wynne-Rhydderch, Twm Morys ynghyd â’r beirdd a gafodd eu dewis ar gyfer rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012 - Ifor ap Glyn, Karen Owen a Gerwyn Williams.
Yng ngeiriau Zoë Skoulding, trefnydd yr ŵyl, “Mae barddoniaeth yn dod â sŵn ac ystyr geiriau at ei gilydd mewn ffyrdd anghyffredin. Mae gwrando ar ieithoedd eraill yn y cyd-destun dwyiethog hwn yn ffordd o ddarganfod cyfoeth ein diwylliant ein hunain yn ogystal â’i agor i syniadau newydd.”
O ddarlleniadau, i noson meic agored, i drafodaethau a hyd yn oed taith farddonol “waeth beth fo’r tywydd”, bydd yng Ngŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru ddigon o ddigwyddiadau i roi hwb i’ch Hydref.
Trefnwyd Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru ar y cyd gan Poetry Wales a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd/Tŷ Cyfieithu Cymru. Cefnogwyd yr Ŵyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Bangor, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, y Cyngor Prydeinig ynghyd ag amrywiol sefydliadau tramor a restrir ar wefan yr ŵyl: www.northwalesinternationalpoetryfestival.org
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag: admin@northwalesinternationalpoetryfestival.org
Digwyddiadau ym Mangor
Dydd Llun, Hydref y 1af
20.00: Tony Conran / Conran Poetry Chorus
Tony Conran, y bardd o Fangor, perfformiad ar y cyd o’i waith.
Prifysgol Bangor Neuadd Powis
Tocynnau: £5/£3
Dydd Iau, Hydref y 4ydd
18.00: Llyfr y Flwyddyn
Jason Walford Davies yn cyflwyno darlleniadau gan dri o feirdd a enwebwyd ar gyfer y wobr hon yn 2012 - Ifor ap Glyn, Gerwyn Wiliams a Karen Owen.
Prifysgol Bangor - Ystafell 3 ar y Teras
Tocynnau: £5 / £3
20.00: In Transit
Noson o ddarlleniadau rhyngwladol gan Eduard Escoffet (Catalonia), Julia Fiedorczuk (Gwlad Pŵyl), Katerina Iliopoulou (Groeg), Estíbaliz Espinosa (Galicia) a Jeroen Theunissen (Gwlad Belg), gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Prifysgol Bangor - Ystafell 3 ar y Teras
Tocynnau: £5 / £3
Dydd Gwener, Hydref y 5ed
18.30: Poetry Wales yn cyflwyno…
Darlleniad gan y bardd Yu Jian o Tseina, ac i ddilyn bydd sgwrs am ei fywyd fel awdur.
20.00 ¡Viva la Poesía!
Noson meic agored dan arweiniad Rhys Trimble.
Caffi Kyffin, Stryd Fawr, Bangor
Dydd Sadwrn, Hydref y 6ed
12.00: Mae’n bwrw geiriau!
Taith gerdded farddonol o gwmpas Bangor, waeth beth fo’r tywydd. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda darlleniad gan Gwyn Thomas yng nghaffi Whistlestop ar y Pier am hanner dydd. Gweler wefan yr ŵyl i weld y llefydd annisgwyl y byddwn yn oedi yma ac acw ynddynt i wrando ar ddarlleniadau gan y beirdd gwâdd (gweler y rhestr uchod).
20.00: Gair yn eich Clust
Noson ryngwladol o ddarlleniadau gan Yu Jian (Tseina), Cia Rinne (Yr Almaen/ Sweden/Y Ffindir), Morten Søndergaard (Denmarc) ac Anja Utler (Yr Almaen), gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg a’r Saesneg. Cerddoriaeth gan Richard James a The Gentle Good.
Prifysgol Bangor - Ystafell 3 ar y Teras
Tocynnau: £6 / £4
Digwyddiad Machynlleth
Dydd Iau, Hydref y 4ydd
18.30: Darlleniadau Barddoniaeth Rhyngwladol
Noson farddoniaeth amlieithog gyda Cia Rinne, Anja Utler, Samantha Wynne-Rhydderch a Twm Morys, gydag arddangosfa a pherfformiad o'r Fferyllfa Eiriau, Morten Søndergaard.
Siop Lyfrau Galeri Penrallt, Stryd Penrallt, Machynlleth
Digwyddiadau Aberystwyth
Dydd Gwener, Hydref y 5ed
15.45 - 16.30: Mapwaith o Farddoniaeth Gymreig
Bydd y bardd Damian Walford Davies yn cyflwyno mapwaith personol o farddoniaeth Gymreig.
16.30 - 17.30: John Barnie mewn sgwrs â Morten Søndergaard
Bydd John Barnie, un o feirdd mwyaf blaengar Cymru a chyn olygydd Planet: The Welsh Internationalist ac un o feirdd amlycaf Denmarc, Morten Søndergaard, yn trafod y cydweithio diweddar fu rhyngddynt.
Bydd darlleniadau yn dilyn – cerddi Morten Søndergaard yn yr iaith Ddaneg am yn ail â chyfieithiadau John Barnie i’r Saesneg.
Sinema Canolfan y Celfyddydau
18.30 - 19.45: Darlleniadau Barddoniaeth
Noson o farddoniaeth a fydd mewn gwahanol ffyrdd yn mapio 'Ewrop' – map ar y cyd gan bump o feirdd o Aberystwyth (Tiffany Atkinson, Matthew Francis, Richard Marggraf-Turley, Katherine Stansfield a Damian Walford Davies), a saith bardd o gyfandir Ewrop (Anja Utler, Julia Fiedorczuk, Katerina Iliopoulou, Eduard Escoffet, Jeroen Theunissen, Cia Rinne ac Estíbaliz Espinosa).
Siop Lyfrau Canolfan y Celfyddydau
Digwyddiad Yr Wyddgrug
Dydd Sul, Hydref y 7fed
16.00: Yr Abswrd yn cyflwyno...
Daw Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru â naw o feirdd amlwg o Ewrop a thu hwnt i’r Wyddgrug. Cyflwyniad yn yr ieithoedd gwreiddiol, gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg ac i’r Saesneg. Zoë Skoulding, Golygydd Poetry Wales, fydd yn cyflwyno.
Ystafell Clwyd, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug
Tocynnau: £7 / £4