Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
“Dewin geiriau... ychwanegiad gwerthfawr tu hwnt i fyd y nofel Gymraeg”
Haf Llewelyn, awdur a beirniad Gwobr Goffa Daniel Owen
“Nofel hollol wych. Mae'n mynd â ni i fyd hollol wahanol, ddiarth y ddeunawfed ganrif. Mae'n datgelu dychymyg mwyaf gwreiddiol, ffres ac anarferol yn y byd cyhoeddi Cymraeg yng Nghymru ar hyn o bryd.”
Bethan Mair, Pnawn Da, S4C
“Mae hon yn stori syfrdanol... yn ddoniol, yn gyffrous, yn ysgogol ac yn heriol”
Alun Davies, awdur a beirniad Gwobr Goff Daniel Owen 2025
“Cyfrol gyfan o Gymraeg graenus, oedd eto'n dweud stori dda a wnaeth i mi ysu ddarllen ymlaen at y diwedd. Dyna gyfrinach Peredur Glyn, mi dybiaf, sef y llinyn sy'n clymu ffantasi y tu hwnt i'n deall â'r byd y mae modd cysylltu ag o.”
Meg Elis, Barn
“...mae yma egni rhyfeddol yn y dweud”
Mari Emlyn, awdur a beirniad Gwobr Goff Daniel Owen 2025
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2025
Campwaith sy'n herio genres ac yn plethu ffuglen hanesyddol, elfennau goruwchnaturiol, a ffuglen wyddonol i stori syfrdanol.
Mae bywyd yr actor Theophilus Cibber ar chwâl. Mae'n destun sbort i gynulleidfaoedd theatr Llundain ac mae ei deulu a'i ffrindiau wedi troi eu cefnau arno. Y cyfan mae Mr Cibber yn chwilio amdano yw enwogrwydd. Mae un cyfle ar ôl. Un siawns i sicrhau anfarwoldeb. Felly yn 1758 mae Theophilus yn dal y cwch i Iwerddon. Ond fydd ei fywyd byth yr un fath eto...
Wedi'i ysgrifennu yn y person cyntaf, mae Anfarwol yn plethu ffeithiau hanesyddol i mewn i daith ffuglennol trwy amser sy'n rhychwantu bron i ddwy ganrif, gan greu "antur hanesyddol, goruwchnaturiol a ffuglen wyddonol... sydd yn ddoniol, yn gyffrous, yn ysgogol ac yn heriol”"ISBN 978-1800997547
208 pp
Garmon Gruffudd Garmon@ylolfa.com & Peredur Glyn
“Dewin geiriau... ychwanegiad gwerthfawr tu hwnt i fyd y nofel Gymraeg”
Darllenwch fwy o adolygiadauHaf Llewelyn, awdur a beirniad Gwobr Goffa Daniel Owen