Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
'Pan ddaw pwerdai barddol penodol ynghyd, pefria'r aer gyda hud sy'n perthyn i gomedau neu enfysau dwbwl. Mae rhyfeddodau prin tebyg yn cael eu tanio gyda dyfodiad blodeugerdd ddiweddaraf Honno wrth iddi godi lleisiau menywod Cymru sy'n byw gyda phoen, salwch neu gyflyrau cronig, a hynny gyda'r nod o greu newid deddfwriaethol.'Katrina Moinet, Nation.Cymru (cyfieithiad)
‘Mae Chronic Women | Menywod Cronig yn gyfrol foesol, ac adeiladol, y mae’n rhaid i ffeministiaid a charwyr llenyddiaeth gydag ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol a’r rheini sy’n byw gyda phoen a chyflyrau cronig, a’u hanwyliaid, ei darllen.’Joanne Owen, LoveReading (cyfieithiad)
‘Mae Chronic Women | Menywod Cronig yn fwy na chasgliad o gerddi. Fel cyfanwaith, mae’r gyfrol hon yn weithred o dystiolaeth, yn alwad i ymwybyddiaeth, ac, mewn sawl ffordd, yn gri i godi llais.’Dr C Helen Munro, Arweinydd Clinigol Rhwydwaith Iechyd Menywod, Perfformiad a Gwella GIG Cymru (cyfieithiad)
Casgliad o gerddi pwerus a diflewyn-ar-dafod ynghylch byw gyda chyflyrau iechyd hir-dymor.
Mae'r flodeugerdd ddwyieithog hon yn cydnabod amrediad o gyflyrau wrth i 14 bardd benywaidd rannu eu realiti o fyw gyda phoen, salwch a chyflyrau cronig. Gyda'r nod dewr o greu newid deddfwriaethol, mae'r llyfr hwn yn grymuso ac yn codi lleisiau menywodCymru a thu hwnt.
Yn goforiog o awduron arobryn, gan gynnwys y golygyddion eu hunain, rydym yn dyst i eiriau hael yr awduron Sioned Erin Hughes, Myfanwy Alexander, Mel Perry, Emma Smith Barton, Lal Davies, Bethany Handley, Nia Wyn Jones, Kandace Siobhan Walker, Rhian Elizabeth, Iola Ynyr, Durre Shahwar a clare e potter. Mynnant eu hawl i gael eu clywed wrth barhau i eirioli dros eu hawtonomi, ac am y gallu i leisio eu barn dros eu cyrff eu hunain, oddi fewn system gofal iechyd partiarchaidd.
Mae Chronic Women | Menywod Cronig yn goelcerth o obaith sy'n disgleirio y tu hwnt i orwelion Cymru, ac yn ymgorffori cryfder menywod wrth iddynt ddod ynghyd i greu newid torfol.
Honno (2025)
ISBN 978-1-9168212-4-8
109pp
press@honno.co.uk
'Pan ddaw pwerdai barddol penodol ynghyd, pefria'r aer gyda hud sy'n perthyn i gomedau neu enfysau dwbwl. Mae rhyfeddodau prin tebyg yn cael eu tanio gyda dyfodiad blodeugerdd ddiweddaraf Honno wrth iddi godi lleisiau menywod Cymru sy'n byw gyda phoen, salwch neu gyflyrau cronig, a hynny gyda'r nod o greu newid deddfwriaethol.'
Katrina Moinet, Nation.Cymru (cyfieithiad)Darllenwch fwy o adolygiadau