Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
“Dengys cofiant ysgubol Jane Aaron iddi mor berthnasol yw ymroddiad a gweledigaeth Cranogwen hyd heddiw. Dyma gyfrol ragorol gan ysgolhaig sydd wedi gwneud mwy na neb i ddarlunio mor gyfoethog a gwerthfawr ydyw cyfraniad merched i lenyddiaeth Cymru.”
Angharad Price
“Dyma glamp o lyfr i’w drysori sy’n croniclo bywyd a gwaith Cranogwen fel un o herlodesi mwyaf dylanwadol Cymru … Gwnaeth yr awdur gymwynas aruthrol â’r genedl wrth roi inni lais croyw y fenyw yng Nghymru fel un ganolog yn hanes y “ddynol ryw”. Diolchwn am gyfrol sydd yn dreiddgar, yn dyner ac yn angerddol wrth ddadlennu bywyd bythgofiadwy yn gyforiog o ryfeddoddau.”
Menna Elfyn
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd. Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.
Gwasg Prifysgol Cymru
English - University of Wales Press
“Dengys cofiant ysgubol Jane Aaron iddi mor berthnasol yw ymroddiad a gweledigaeth Cranogwen hyd heddiw. Dyma gyfrol ragorol gan ysgolhaig sydd wedi gwneud mwy na neb i ddarlunio mor gyfoethog a gwerthfawr ydyw cyfraniad merched i lenyddiaeth Cymru.”
Darllenwch fwy o adolygiadauAngharad Price