Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
“Manon Steffan Ros has certainly scored again.”
Jon Gower, Nation Cymru - in praise of her previous football-themed novel Me and Aaron Ramsay
Stori dod i oed pwerus wedi'i gosod yng nghanol atgyfodiad Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae Danny a Mali yn hapus yn eu teulu bach, dim ond nhw a Mam- Ond mae pethau'n dechrau mynd o chwith pan mae Andrew, cariad Mam, yn ymddangos. Gyda chefndir o bêl droed, a bywyd pan 'da chi'n caru'ch tîm ond yn methu fforddio tocyn i'r stadiwm, mae Y Cae Ras yn archwilio y gwahanol ddisgwyliadau sydd i fechgyn a merched, a'r ffordd mae anhegwch yn gallu bod yn bethau bach sy'n treiddio'n anweledig i fywydau pobol ifanc...
Mae apêl ryngwladol Y Cae Ras yn tynnu ar y diddordeb byd-eang mewn trawsnewidiad CPD Wrecsam, yn cynnig themâu sy'n atseinio ar draws diwylliannau, ac yn darparu fformat cryno, hygyrch i ddarllenwyr amharod. Mae wedi'i gynllunio i ysbrydoli, yn enwedig bechgyn, i ddarllen a chredu yn eu potensial eu hunain.
978-1-80099-715-8
112 pp
Garmon Gruffudd: garmon@ylolfa.com / Christopher Combemale, Sterling Lord Literistic, Inc: ccombemale@sll.com
“Manon Steffan Ros has certainly scored again.”
Jon Gower, Nation Cymru - in praise of her previous football-themed novel Me and Aaron Ramsay