Our Bookshelf

Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.

yn ôl
Crocodeil 9781068216732

Crocodeil yn Berwi Tegell(A Crocodile Boiling a Kettle)

Trawma a roddodd fywyd i’r cerddi sydd yn y casgliad hwn, ond crebwyll a chrefft bardd a’u gwnaeth yn ddarnau i syfrdanu darllenwyr.  

Fel hyrddiau o alar, mae’r cerddi hyn hefyd bron yn afreolus eu hamrywiaeth – o fyfyrdodau tameidiog i lif ymwybod rhyddieithol. Ac eto, er mor amrwd, nid casgliad un cyfeiriad sy’n dadbacio ac yndadlwytho yn unig mo hwn, gan fod yma fardd all weld fflachiadau o harddwch – ac edrych am ymlaen – hyd yn oed o lygad poen annirnad. 

Mae’r gerdd deitl, ‘Crocodeil yn berwi tegell’, yn disgrifio’r dyddiau anodd wedi profedigaeth pan roedd galar yn llorio’r bardd. Byddai pobl yn galw heibio ei chartref,  hithau’n hwylio te, ond mewn gwirionedd eisiau gorwedd ar ei hyd ar lawr ‘fel crocodeil’.  

Cafodd y bardd ei chymhell i ganu am ei phrofiad trwy farddoniaeth, nid i bobl dosturio drosti, ond i ddefnyddio grym geiriau i rannu mewnwelediad i'r profiadau a siglodd seiliau ei bywyd. 

Heb os, mae’r cerddi hyn yn ymdrin â rhai o themâu mwyaf heriol yr oes sydd ohoni, a thrwy eu haelioni, yn cyffwrdd y galon.  

Adolygiadau

‘Mae Non Prys Ifans yn ymdrin â thrawma, galar a thrallod yn ddiffuant a di-ofn.’
Non Tudur, Golwg