Our Bookshelf

Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.

yn ôl
IMG 9908

Cymru Fydd

Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb?

I Koi a’i ffrindiau, mae’n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater. Ond fel roedd y Cymrics eu hunain yn ei wybod trwy brofiad, mewn gwendid y perffeithiwyd pob mudiad chwyldroadol – hyd at yr awr pan fo’r gwan rhyw ddydd yn codi yn gry.

Cyn y Rhyfel yn 2049, pobol ddigon disylw oedd y Cymry, a’u gwlad yn un o daleithiau tlotaf Gorllewin Ewrop – yn wlad nad oedd yn marw, ond nad oedd chwaith yn byw. Roedd angen gweledigaeth wrol i ddychmygu math arall o gymdeithas ar hen dir. Trwy drugaredd, boddwyd dinas Caerdydd o dan y tonnau.

Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Mae mwy nag un gwewyr yn herio eu rhagdybiaethau amdanynt eu hunain a’u gwlad. Ond mae’r hyn sy’n herio Koi yn fwy nag y gall o – na neb arall – ei ddychmygu. All o hyd yn oed hawlio mai yr un person ydi o yn 2100 ag yr oedd o yn 2090?

Adolygiadau

“Mae'n dweud stori dda yn grefftus, yn codi cwestiynau mawr am wleidyddiaeth Cymru, yn gynnil ei chyfeiriadaeth, yn creu byd amgen dychmyglon ac yn peri chwerthin mawr o dro i dro.”

Emyr Lewis