Our Bookshelf

Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.

yn ôl
Clawr Mymryn

“Without a doubt, the main appeal in Mymryn Rhyddid is the variety of subjects Gruffudd Owen writes about, not to mention the variation in tone, from amusing to serious and everything in between.”

Ant Evans, Nation Cymru

Mymryn Rhyddid (A Scrap of Freedom)

Enillydd Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2024

Bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018

Yn ail gasgliad arobryn Gruffudd Owen cawn gyfle i fod yng nghwmni'r llais chwareus, meddylgar a gyflwynwyd yn ei gyfrol gyntaf Hel Llus yn y Glaw . Ers y cyfnod hwnnw mae'r byd wedi newid, ac er bod cynnwrf gwleidyddol a heriau personol yn gefnlen i lawer o gerddi'r gyfrol hon, mae plethiad nodweddiadol y bardd o ddigrifwch, didwylledd a sinigiaeth yn aros, os ychydig yn fwy miniog y tro hwn.

Wrth gofnodi profiad cymaint o siaradwyr Cymraeg a symudodd i ffwrdd o'u milltir sgwâr, mae angst ieithyddol Owen yn treiddio drwy'r casgliad eang hwn, sydd hefyd yn dychanu cysuron ac anesmwythdod bywyd canol dosbarth Caerdydd, ac yn myfyrio ar realiti rhianta plentyn ar y sbectrwm awtistig. Y canlyniad yw casgliad cynnes a gonest iawn am newid, cariad, caethiwed a mymryn o ryddid.

Adolygiadau

“Without a doubt, the main appeal in Mymryn Rhyddid is the variety of subjects Gruffudd Owen writes about, not to mention the variation in tone, from amusing to serious and everything in between.”

Ant Evans, Nation Cymru