Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
Llwyd Owen
“Mae Tir Dial yn dyrchafu’r nofel drosedd Gymreig i uchelfannau newydd’
“Mae hi’n nofel sy’n cadarnhau safle Dyfed Edwards tua’r brig yn hierarchiaeth awduron ein dwthwn. Mae elfennau o’r nofel yn atgoffa’r darllenydd o weithiau Denis Johnson, Kevin Barry, Lisa McInerney a hyd yn oed Marlon James. Mae i waith Dyfed ei lais ei hun ond mae ei enwi ar yr un gwynt â’r rhain yn glod o’r mwyaf iddo.”
Aled Evans, Barn
“Yn dywyllach na Bedydd Tân, mae’n darllen anghyffyrddus, hynod dreisgar ond mae’r sgwennu mor dda 'da chi’n teimlo eich bod yn y byd yma go iawn. “
Bethan Gwanas, Colli'r Plot
Cymysgedd meistrolgar o ddilysrwydd gweithdrefnau yr heddlu gyda dyfnder seicolegol.
Wedi'i gosod yn 1989, mae Tir Dial yn nofel gyffrous a gafaelgar sy'n dychwelyd i fyd tywyll y newyddiadurwr John Gough ar Ynys Môn, ddeng mlynedd ar ôl y digwyddiadau yn Bedydd Tân nofel glodwiw flaenorol yr awdur. Mae'r dilyniant hir-ddisgwyliedig hwn yn plymio i mewn i hen achos arswydus sydd wedi pyrdu mlaen ers dros ddau ddegawd: diflaniad Veronica Groves, yn dair ar ddeg oed yn Ffair Borth ym 1966.ISBN 978-1-917006-13-2
384 pp
Gerwyn Williams gerwyn@gwasgybwthyn.co.uk
Llwyd Owen
Darllenwch fwy o adolygiadau“Mae Tir Dial yn dyrchafu’r nofel drosedd Gymreig i uchelfannau newydd’