Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
'Dyma fardd cyffrous newydd sy'n gwybod sut i leisio mewn cywair perffaith – weithiau cawn reiat o gerddi rhaeadrog, dro arall llynnoedd llonydd rhithiol – gan adael y darllenydd i oedi yn naws y cerddi. O, ac mae rhai cerddi wedi eu hoelio yn fy nghof – daw y rhain nid yn unig o'r galon ond o'r ymysgaroedd.'Menna Elfyn
'Dyma gyfrol gain a myfyriol, sydd eto'n ysgytwol, wrth iddi ymdrin ag amryw themâu pwysig megis hunaniaeth, ffeministiaeth, rhywedd a pherthyn. A ninnau'n byw mewn oes lle mae trafodaethau am hawliau merched a chydraddoldeb yn fwy perthnasol nag erioed, mae'r freuddwyd hon o gyfrol yn cynnig cân sensitif ond cadarn a ddylai gael ei chlywed yn eang.'Gareth Evans-Jones
'Mae'n amhosib peidio ag edmygu gwreiddioldeb llais a dychymyg eithriadol Nia wrth brofi'r cerddi hyn. Llyncais Yn y Freuddwyd mewn un eisteddiad â'm calon yn curo – yn wir, fel petawn i wedi cael fy lapio mewn breuddwydion lliwgar, neu wedi camu i fyd arall ac yn ôl.'Megan Hunter
Mae breuddwyd a realiti yn pendilio'n hudolus drwy'r cerddi hyn, ac mae dychymyg lliwgar y bardd yn ystyried themâu pwysig fel hunaniaeth, teulu a chymdeithas.
Mae cynrychiolaeth yn bwysig i Nia, yn enwedig drwy'r iaith Gymraeg a'r croestoriadau sy'n codi, a ffocysir yn enwedig ar beth mae'n ei olygu i fod yn hil-gymysg ac yn LHDTC+ mewn diwylliantiaith leiafrifoledig.
Mae'r casgliad hwn wedi ei wreiddio'n ddwfn yng Nghaerdydd, ble ganwyd a magwyd Nia, ac yn rhoi llais i fenywod cryf hanes, chwedloniaeth a heddiw, gan gwestiynu beth mae'n ei olygu i berthyna beth mae'n ei olygu i fod yn fenyw.
Cyhoeddiadau Barddas (11 March 2026)
ISBN 978-1-911584-99-5
56pp
Cyhoeddiadau Barddas - Bethany Celyn bethany@barddas.cymru
'Dyma fardd cyffrous newydd sy'n gwybod sut i leisio mewn cywair perffaith – weithiau cawn reiat o gerddi rhaeadrog, dro arall llynnoedd llonydd rhithiol – gan adael y darllenydd i oedi yn naws y cerddi. O, ac mae rhai cerddi wedi eu hoelio yn fy nghof – daw y rhain nid yn unig o'r galon ond o'r ymysgaroedd.'
Menna ElfynDarllenwch fwy o adolygiadau