O dro i dro mi fyddwn yn ychwanegu yma'r cardiau post sydd wedi ein cyrraedd gan awduron ar daith.
Francesca Rhydderch yn anfon gair o Tseina lle bu'n cymryd rhan yng ngŵyl Bookworm, Beijing ac yna'n ymweld â swyddfeydd Shanghai Translation Publishing House yn Shanghai. more
Ar fy ffordd i gyfarfod cyhoeddwr o Cairo sydd wedi bod yn darllen The Last Hundred Days gan Patrick McGuinness yr oeddwn yn yn y Salon du Livre bore ma pan sylwais ar y cyfieithiad Ffrangeg o The Claude Glass gan Tom Bullough yn sefyll yn dalog ymysg cynigion Calmann-Lévy. Pa rai eraill o'n…more
Siân Melangell Dafydd sy'n anfon gair o Ffair Lyfrau Brwsel fis Chwefror 2014. Bu Siân yn cymryd rhan, ynghyd â Patrick McGuinness, yn rhaglen Prydain fel gwlad wadd yn y ffair eleni. Darllenwch fyfyrdodau Siân ar ei hymweliad yma: 'Mae teithio bob amser yn gwneud i mi feddwl am Lemminkäinen yn y…more