13 Medi 2016
Dydd Gwener, 30 Medi 2016, 9:00yb - 5:30yh, Y Llyfrgell Brydeinig, NW1 2DB.
Digwyddiad blynyddol ar gyfer y gymuned gyfieithu yw Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu. Mae’n gyfle i gyfieithwyr, myfyrwyr, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, blogwyr ac adolygwyr i gyfarfod a rhwydweithio, trafod heriau, datblygiadau a materion o bwys o fewn y sector yn ogystal a dathlu llwyddiant.
Eleni mae’r rhaglen yn cynnwys seminarau ar ysgrifennu gan fenywod mewn cyfieithiad, aml-ieithrwydd, sefyllfa cyfieithu mewn addysg uwch, dulliau amgen o gyhoeddi a chyfieithu yn ogystal a chyfieithu ar gyfer y llwyfan. Ymysg siaradwyr mae Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant, cartref Cyfnewidfa Lên Cymru.
Cyflwynir y diwrnod gan Free Word, English PEN a’r Llyfrgell Prydeinig mewn cydweithrediad a’r Ganolfan Prydeinig ar gyfer Cyfieithu Llenyddol (BCLT), Rhwydwaith y Cyfieithwyr sy'n dod i'r Amlwg, Cymdeithas y Cyfieithwyr, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Words Without Borders, Canolfan Ysgrifennu Norwich a Chyfnewidfa Lên Cymru.
Gellir gweld y rhaglen yn llawn yma.
Mae tocynnau ar gael drwy wefan Y Llyfrgell Prydeinig.