19 Ionawr 2013
Yn Kolkata ddiwedd mis Ionawr, bydd Kathryn Gray yn ymuno â Doris Kareva o Estonia ynghyd â beirdd o India sy'n ysgrifennu mewn ystod o ieithoedd. Byddant yn cydweithio mewn gweithdy cyfieithu wedi ei arwain gan Akshay Pathak, ar ran Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau. Yn dilyn y gweithdy bydd noson arbennig yn cael ei chynnal fel rhan o'r Kolkata Literary Meet. Yn wreiddiol bwriadwyd i'r gweithdy gael ei gynnal yn Kathmandu, Nepal, ddiwedd mis Tachwedd, ond fe gafodd ei ohirio oherwydd y datblygiadau gwleidyddol yno ar y pryd. Mae'r gweithdy hwn yn un o gyfres, wedi eu cynnal mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau ers 2010. Y cyntaf oedd Poetry Connections a gellir gweld ffilm fer gan D W Gibson am y gweithdy hwnnw isod.
Gweithdy cyfieithu barddoniaeth Kolkata
24ain o Ionawr i'r 2il o Chwefror, 2013
Kolkata, India