31 Mawrth 2014
I ddathlu cyhoeddi rhifyn arbennig o’r cylchgrawn Tseineaidd Foreign Literature and Art, sy’n canolbwyntio’n llwyr ar lenyddiaeth a chelf Cymru, bydd Cyfnewidfa Lên Cymru ac Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor yn cynnal symposiwm ar gyfnewid llenyddol a chyhoeddi rhwng Cymru a Tseina, ddydd Gwener, Mai’r 2il, 2014 ym mhrifysgol Bangor
Ymysg siaradwyr bydd Angharad Price, Jon Gower, HU Dong, Patrick McGuiness, Jerry Hunter a WU Hong, Dirprwy Brif Olygydd, Shanghai Translation Publishing House
Mae rhaglen lawn symposiwm Darllen Tseina, Cyfieithu Cymru isod.
I gadw eich lle, neu i dderbyn gwybodaeth bellach am y symposiwm cysylltwch â post@cyfnewidfalen.org
Darllen Tseina, Cyfieithu Cymru, dydd Gwener, Mai'r 2 2014, 12-30 - 6:00yh, Prifysgol Bangor