19 Ionawr 2013
Fis Ionawr bydd Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn parhau'r gwaith o ddatblygu cyfieithu llenyddol i'r Dwrceg ag o'r Dwrceg gyda dau weithdy cyfieithu creadigol. Bydd y gweithdy cyntaf yn canolbwyntio ar gyfieithu i'r Dwrceg ac yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Boğaziçi. Mae'r ail weithdy ar gyfer cyfieithu o'r Dwrceg i'r Saesneg, hynny wrth baratoi at gyhoeddi blodeugerdd o farddoniaeth Dwrceg (fel rhan o'r gyfres gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau, New Voices from Europe and Beyond, sy'n cael ei chyhoeddi gan Arc).
Bydd W N Herbert, Zoë Skoulding a Richard Gwyn yn ymuno â Chyfarwyddwr y Scottish Poetry Library, Robyn Marsack a'r beirdd Twrceg Efe Duyan, Gökçenur Ç, Gonca Özmen. Bydd y beirdd yn cyflwyno eu gwaith yng Nghanolfan Nazim Hikmet yn Moda am 7 yr hwyr ar y 26ain o Ionawr.
Ceir mwy o wybodaeth yma.