12 Ebrill 2013
Bydd Fiction Fiesta, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru yn cyflwyno noson arbennig gyda beirdd o Dwrci ar nos Sadwrn y 13eg o Ebrill yn nghaffi Gogo, Caerdydd (7 yr hwyr). Bydd y noson yn rhagflaenu y sylw y bydd Ffair Lyfrau Llundain yn ei roi i Dwrci fel ffocws marchnad eleni (15-17 Ebrill, Earls Court). Bydd Efe Duyan, Gökçenur Ç, Gonca Özmen ac Adnan Özer yn sgwrsio gyda dau o'u cyfieithwyr, sef Richard Gwyn a Zoë Skoulding. Edrychwn ymlaen at ddarlleniadau a thrafodaeth am hyd a lled cyfieithu creadigol, yn ogystal â sgwrs am gyfieithu ffordd o fyw yn Nhwrci. Bydd y noson hefyd yn gyfle i lansio llyfryn o waith creadigol a grewyd yn ystod cyfres o weithdai cyfieithu a drefnwyd gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn Istanbul ac ym Mhrydain - Paper Ship. Cyhoeddir y gyfrol gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau, y Scottish Poetry Library a Delta Publishing, Istanbul.
Bydd bwyd a diod yn ystod y noson a'r llyfryn yn cael ei anrhegu i bob gwestai sy'n mynychu.