29 Tachwedd 2016
Venkateswar Ramaswamy yn cyflwyno darlith: ‘Voices from the Margins’
Newyn yw’r prif gymeriad yn y bydoedd llenyddol y mae Ramaswamy yn eu cyfieithu o’r Bengaleg i’r Saesneg. Ers 2005, bu’n cyfieithu gwaith awduron Bengaleg sydd ar gyrion y byd llenyddol hwnnw, yn ysgrifennu am bobl sydd yn byw ar y cyrion, am eu dioddefaint, a’r modd y mae cymdeithas yn rhan annatod o’u gormes.
Mae V. Ramaswamy yn Gymrawd mewn Cyfieithu ac Ysgrifennu Creadigol gyda Llenyddiaeth ar draws Ffiniau. Ef yw cymrawd cyntaf y ‘Charles Wallace India Trust’ ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe noddir ei breswyliad 3 mis gan gronfa Charles Wallace India Trust sydd yn dyfarnu ysgoloriaethau i ysgolheigion ac ymarferwyr o India.
Croeso i bawb.