Uchafbwyntiau 2014: Francesca Rhydderch yn ymddangos yng ngŵyl The Bookworm International Literary Festival, Beijing

Uchafbwyntiau 2014: Francesca Rhydderch yn ymddangos yng ngŵyl The Bookworm International Literary Festival, Beijing

16 Rhagfyr 2014

Cardyn post China 2

Bu 2014 yn flwyddyn hynod lwyddiannus i’r awdur Francesca Rhydderch. Enillodd ei nofel, The Rice Paper Diaries, a ddetholwyd i’n Silff Lyfrau, i’r brig yng nghategori ffuglen (Saesneg) Cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2014, tra cyrhaeddodd ei stori fer, The Taxidermist’s Daughter, restr fer gwobr the BBC National Short Story Award 2014.

Ddechrau fis Mawrth, ymddangosodd Francesca Rhydderch yng ngŵyl The Bookworm International Literary Festival, Beijing. Nod yr ŵyl a ariannir yn annibynnol, yw dathlu llenyddiaeth a syniadau, drwy ddigwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau gydag awduron, meddylwyr, artistiaid a pherfformwyr. Eleni, roedd y rhaglen yn cynnwys dros 300 o ddigwyddiadau ar draws wyth o ddinasoedd, gan gysylltu dros 110 o awduron a meddylwyr o Tseina a thu hwnt.

Yn ystod ei hymweliad, trefnwyd cyfarfodydd gan Gyfnewidfa Lên Cymru i Francesca Rhydderch gyda’r Shanghai Translation Publishing House, y wasg sy’n cyhoeddi’r nifer mwyaf o gyfrolau llenyddiaeth byd yn Tseina. Gwelwyd eu cyfarfod yn dwyn ffrwyth fis Mai yn symposiwm Darllen Tseina, Cyfieithu Cymru a drefnwyd gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad a’r Gyfnewidfa, ble cyhoeddodd Wu Hong, Dirprwy Brif Olygydd y wasg eu bwriad i brynu hawliau cyfieithu The Rice Paper Diaries.

Darllenwch gerdyn post Francesca Rhydderch o Beijing yma.
Trefnwyd taith Francesca Rhydderch i Tseina ar y cyd gyda'n chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, a'i chefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.