07 Mai 2014
Mewn ymateb i’r cyfnewid llenyddol a welwyd yn y symposiwm, cyhoeddodd Mick Felton o wasg Seren eu bwriad i brynu hawliau cyfieithu Saesneg China 1957 sef nofel gan You Feng Wei, a’i chyhoeddi fel rhan o’r gyfres Seren Discoveries.
Trefnwyd y symposiwm, a gynhaliwyd ar Fai’r 2il, gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Chyfnewidfa Lên Cymru, a hynny i nodi rhifyn arbennig ar Gymru o’r cylchgrawn Tseineaidd dylanwadol, Foreign Literature and Art.
Wrth gloi’r symposiwm, llofnodwyd Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Bangor a’r Shanghai Translation Publishing House, a hynny er mwyn datblygu i’r hir-dymor y cydweithio effeithiol a fu hyd yma rhwng y tri sefydliad.
Meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru: “Tseina yw un o’r marchnadoedd cyhoeddi sydd â’r potensial mwyaf i ddatblygu dros y degawd nesaf.
Shangai Translation Publishing House yw’r wasg sy’n cyhoeddi’r nifer mwyaf o gyfrolau llenyddiaeth byd yn Tseina. Mae eu bwriad i brynu hawliau cyfieithu The Rice Paper Diaries yn newyddion da iawn nid yn unig i Francesca Rhydderch a gwasg Seren ond i’r diwydiant cyhoeddi yma yng Nghymru hefyd.
Mae penderfyniad gwasg Seren i gyfieithu a chyhoeddi nofel yr awdur You Feng Wei, China 1957, hefyd yn sicrhau cyfle i ddarllenwyr o Gymru a thu hwnt gael blas ar lenyddiaeth Tseina.
Drwy arwyddo Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Bangor a Shanghai Translation Publishing House ein bwriad yw sicrhau y bydd mwy o gyfnewid llenyddol rhwng Cymru a Tseina dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Ceir lluniau o'r symposiwm yma.