Blas o noson Lee Seung-U

Blas o noson Lee Seung-U

14 Ebrill 2014

Lee seungu

Mewn cyfweliad gydag un o raglenni BBC Radio Cymru, Bwrw Golwg, a ddarlledwyd fore Sul, Ebrill 13eg 2014, bu Francesca Rhydderch ac un o awduron athronyddol pwysicaf Korea, Lee Seung-U yn trafod ei waith, ei syniadaeth a’i ymweliad a Chymru gyda John Roberts.

Dydd Gwener, Ebrill 11eg ymwelodd Lee Seung-U ac Aberystwyth i gymryd rhan mewn digwyddiad wedi ei drefnu gan Gyfnewidfa Lên Cymru, mewn partneriaeth â'r Cyngor Prydeinig i nodi Korea fel Ffocws y Farchnad yn Ffair Lyfrau Llundain 2014. Mewn noson yn Yr Hen Goleg, bu Francesca Rhydderch, awdur The Rice Paper Diaries (Seren, 2013) yn sgwrsio gyda’r awdur nodedig o Korea am ei fywyd a dylanwad ei ffydd Gristnogol ar ei waith. Yn y cyfweliad, ceir blas o’r noson, yn cynnwys trafodaeth ddifyr ar syniadaeth Lee Seung-U ar ddylanwad cadarnhaol elfennau o euogrwydd ar yr unigolyn, thema sy’n amlwg iawn yn ei waith.

Gellir gwrando ar y cyfweliad yn llawn yma neu lawrlwytho’r rhaglen yn llawn fel podlediad.

Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, bob bore Sul am 8:00yb.