05 Rhagfyr 2017
Mae cyfieithiad o un o straeon byrion Caryl Lewis yn ymddangos yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn llenyddol New Welsh Reader. (Gaeaf 2017)
Daw’r stori fer, ‘Y Llif’, o’r gyfrol Y Gwreiddyn (Y Lolfa, 2016), ac fe’i cyfieithwyd hi gan Gwen Davies. Detholwyd Y Gwreiddyn i Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa eleni, a’r gyfrol honno hefyd a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori ffuglen eleni.
Cynhyrchwyd fideo gan New Welsh Reader i gyd-fynd â’r stori fer, sy’n cynnwys darlleniad Cymraeg gan Dewi Huw Owen ac is-deitlau o’r cyfieithiad gan Gwen Davies. Gellir gwylio’r fideo yma.