21 Mawrth 2016
Bydd yr awdur arobryn Patrick McGuinness yn siarad am ei waith mewn darlith gyhoeddus yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, am 11.30 Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2016.
Daw teitl y ddarlith o gofiant yr awdur Other People’s Countries, llyfr sy’n edrych yn ôl ar y cyfnodau a dreuliodd fel plentyn yn nhref Bouillon yng Ngwlad Belg ac a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Saesneg yn 2015.
Dyma’r ail gyhoeddiad gan Patrick McGuinness i gipio gwobr Llyfr y Flwyddyn. Roedd hefyd yn fuddugol yn 2012 gyda’i nofel The Last Hundred Days sy’n mynd i’r afael â diwedd teyrnasiad Ceauşescu yn Bucharest yn 1989.
Yn ei ddarlith agored yn Aberystwyth 16 Ebrill, bydd Patrick McGuinness yn tynnu ar ei brofiadau i ystyried ymhellach y berthynas rhwng llenyddiaeth, hunaniaeth a diwylliant.
Mae ei araith yn rhan o fforwm arbennig ar ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer llenyddiaeth ryngwladol sy’n cael ei drefnu yn y dref gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) – llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid a chyfieithu llenyddiaeth sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae disgwyl i lenorion a churadon ynghyd â chyhoeddwyr a chynrychiolwyr eraill o’r diwydiant o Ewrop ac Asia fynychu’r fforwm.
“Rydym wrth ein bodd bod sgwennwr o safon Patrick McGuinness yn gallu bod yma gyda ni yn Aberystwyth ar gyfer y Fforwm sy’n un o uchelbwyntiau Ewrop Lenyddol Fyw - prosiect sy’n cael ei gydlynu gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau fel rhan o Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Cyfarwyddwr LAF, Alexandra Büchler.
“Dros gyfnod o ddeuddydd, byddwn ni’n trin a thrafod datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer cyfieithiadau llenyddol a thrwy agor darlith Patrick i’r cyhoedd, ein gobaith yw estyn allan i’r gymuned ehangach.”
Mae mynediad i’r ddarlith yn rhad ac am ddim, diolch i nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Fel Cymdeithas, pleser a braint yw cael cefnogi darlith gan awdur mor uchel ei barch â Patrick McGuinness. Mae croeso i bawb ymuno gyda ni i ar gyfer ei anerechiad a fydd heb os yn ddifyr, yn ddeallus ac yn ddiddorol – anerchiad ag iddo arwyddocâd arbennig i ni fel cenedl fechan,” meddai Ned Thomas, Llywydd Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un o Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig.
Mae Patrick McGuinness yn Athro Ffrangeg a Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Rhydychen ond mae ei gartref yng Nghaernarfon.
Trefnir y Fforwm Llenyddiaeth Ryngwladol gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw sy’n cael ei gefnogi gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru trwy Swyddfa Ewrop Greadigol y DU – Cymru.