Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Zoë Skoulding

Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Zoë Skoulding

06 Hydref 2015

200px Zoë Skoulding bw portrait

Bu’r Gyfnewidfa yn cyfweld Zoë Skoulding, un o awduron ein Silff Lyfrau am ei gwaith a’r dylanwadau arni, wrth iddi baratoi at Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru.

Beth wnaeth eich ysgogi i ymroi o’ch amser i ysgrifennu, ac o ble y daw eich syniadau?
Treuliais fy ieuenctid mewn ardaloedd gwledig, diarffordd, a chanlyniad hynny oedd i mi ddarllen yn awchus - llenyddiaeth yn bennaf bryd hynny; troi at farddoniaeth yn nes ymlaen wnes i. Roedd ysgrifennu yn ymateb naturiol i hynny, ac mae’r arfer o ysgrifennu yn parhau i mi i fod yn ffordd gynnal sgwrs gyda’r hyn rwyf yn ei ddarllen. Mae teithio hefyd yn ffynhonnell arbennig ar gyfer syniadau; mae’n gwneud i chi arsylwi, boed adref neu dramor, mewn ffordd wahanol. Fwy- fwy, mae cyfieithu yn bwydo’r hyn rwy’n ei ysgrifennu - mae fel darllen a theithio ar yr un pryd.

Sut fyddech chi’n disgrifio’ch gwaith ysgrifennu?
Does dim modd i mi ragweld pa fath o brofiad a gaiff rhywun o ddarllen fy ngwaith, ond i mi mae fel mordwyo rhwng syniadau amrywiol ynglŷn a beth gall cerdd fod. Mae gen i ddiddordeb mewn ffurfiau traddodiadol, yn arbennig wrth geisio eu torri a’u hailstrwythuro. Mae emosiwn yn bwysig yn fy ngwaith ond nid wyf yn credu bod iaith yn medru cynnwys, na chwaith gyfleu, teimladau. Nid wyf ychwaith yn cynrychioli lle ond yn creu cerddi fel llefydd all fodoli dros dro.

Pa awduron sydd wedi dylanwadu arnoch?
Ym myd llenyddiaeth, dangosodd Italo Calvino sut y gall chwarae gyda strwythurau agor ar bosibiliadau hudolus. Yn fwy diweddar, mae barddoniaeth ac ysgrifau athronyddol Denise Riley wedi bod yn bwysig iawn i mi. Mae maint a graddfa gweledigaeth Alice Notley yn parhau i’m rhyfeddu, er wn i ddim a fyddwn yn honni ei bod yn ddylanwad.

Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu awduron heddiw – ydi’r heriau hynny wedi newid ers i chi ddechrau ysgrifennu?
Mae erydiad canolbwyntio yn sgil y cyfryngau hynny sydd yn cyflymu ein profiadau yn ei gwneud hi’n anoddos i ddarllen ac ysgrifennu barddoniaeth. Mae’n ymddangos fel sefyllfa newydd a digyffelyb, ond mae barddoniaeth bob amser wedi bod yn ffordd o fwrw golwg fanwl trwy gyfrwng iaith. Yr her i awdur ydi stopio amser a gwneud i rywun edrych ar y byd o’r newydd.

Beth yw’r peth anoddaf a’r peth hawsaf am fod yn awdur?
Y paradocs, o gofio f’ateb i’r cwestiwn diwethaf, yw dod o hyd i amser – rhwng popeth. Mae ysgrifennu yn gyson gymysg o gyfnodau o wneud dim byd a chyfnodau o gyffro pan fydd syniad yn gweithio, ond nid wyf yn cael unrhyw agwedd ar hynny yn hawdd.

Pa awduron o Gymru fyddech chi’n eu hargymell i ddarllenwyr, a pham?
Lynette Roberts - mae ei gwaith yn parhau i swnio fel petai o flaen ei hamser, er i’w gwaith ddod i fod yn y Gymru wledig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae rhywbeth grymus am hynodrwydd ei hiaith, sy’n hofran ar ymyl y Saesneg, gan addo bod yn rhywbeth arall bob amser.

Detholwyd The Museum of Disappearing Sounds (Seren, 2013) gan Zoë Skoulding i Silff Lyfrau 2014-15 Y Gyfnewidfa. Detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer cyfieithu dramor yw'r Silff Lyfrau - darllenwch fwy yma.