Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru 2015

Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru 2015

29 Medi 2015

NWIPF2015 banner 493x273

7 -10 Hydref 2015

Daw Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru a beirdd amlwg o Gymru ac Ewrop ynghyd mewn cymysgedd amlieithog cyfoethog o leisiau.

Rhaglen

Dydd Mercher, 7 Hydref


Words & Words & Words
19.45, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. £5
Noson arbennig o farddoniaeth arloesol wedi guradu gan Mary Jacob a’i chyflwyno gan Nia Davies.
Gyda Kārlis Vērdiņš (Latfia) Jana Putrle Srdić (Slofenia), Nikola Petković (Croatia), Ivana Simić Bodrožić (Croatia) and Marko Pogačar (Croatia) a Matthew Francis, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury (Cymru).

Dydd Iau, 8 Hydref


Trafodaeth banel: Barddoniaeth ffiniau: Ysgrifennu ar draws ffurfiau
15.00, Ystafell 018, Adran y Celfyddydau, Prifysgol Bangor. AM DDIM

Gyda Nikola Petković, Marko Pogačar, Ivana Simić Bodrožić, Jana Putrle Srdić, Kārlis Vērdiņš

Dydd Iau, 8 Hydref

YN FYW!:Barddoniaeth Ryngwladol gyda Poetry Wales
18.30, Blue Sky Café, Bangor. AM DDIM
Jana Putrle Srdić, Kārlis Vērdiņš, Rhys Trimble a Guto Dafydd. Cyflwynir gan Nia Davies, golygydd Poetry Wales.

Dydd Gwener 9 Hydref


Barddoniaeth o Croatia mewn cyfieithiad
18.00, Teras Cledwyn Ystafell 3, Prifysgol Bangor. AM DDIM.

Gyda Nikola Petković, Marko Pogačar, Ivana Simić Bodrožić.
Darlleniadau a sgwrs gyda Dr Zoë Skoulding, Prifysgol Bangor.


Dydd Gwener 9 Hydref

Geiriau a Thu Hwnt: Barddoniaeth Glywedol 19.00, Teras Cledwyn Ystafell 3, Prifysgol Bangor. AM DDIM.
Oscar Martin Centeno – cyflwyniad gan Dr Diana Cullell, Prifysgol Lerpwl.

Dydd Sadwrn 10 Hydref

Geiriau Whistlestop a Cherddoriaeth
12.00, Whistlestop Café, Pier Bangor. Fiona Cameron: lansio Bendigo,
Spectralate: Lansio Cydymaith y Myfyrwyr, 
Cerddi Aer: Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Darperir cawl am ddim.

Isod ceir gwybodaeth bellach am y beirdd sy’n ymweld a Chymru:

  • Mae Kārlis Vērdiņš (Latfia) yn fardd, yn gyfieithydd, beirniad llenyddol, ac yn ymchwilydd yn y Sefydliad Llenyddiaeth, Llên Gwerin a Chelf ym Mhrifysgol Latfia. Mae hefyd yn gerddor gyda’r band llenyddol band Maukas (Sluts).
  • Mae Jana Putrle Srdić (Slofenia) yn fardd ac yn cyfieithu barddoniaeth Saesneg.
  • Mae Nikola Petković (Croatia) yn fardd, nofelydd ac Athro yn Adran Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Rijeka.
  • Mae Ivana Simić Bodrožić (Croatia) yn fardd ac awdur llenyddol. Mae wedi cyhoeddi pum cyfrol yn cynnwys y nofel hunangofiannol Hotel Zagorje.
  • Mae Marko Pogačar (Croatia) wedi cyhoeddi pedwar casgliad o farddoniaeth, tair cyfrol o draethodau a chasgliad o straeon byrion. Ef yw golygydd Quorum, cylchgrawn llenyddol, a Zarez, wythnosolyn ar faterion diwylliannol a chymdeithasol. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i dros dri deg o ieithoedd.
  • Mae Oscar Martín Centeno (Sbaen) yn fardd ac artist amlgyfrwng sy’n cyfuno barddoniaeth gyda’r defnydd o dechnoleg ddigidol. Mae hefyd yn gwneud rhaglen dogfen a chyflwyniadau digidol ar gelfyddyd a diwylliant.

Trefnir Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru 2015 mewn cydweithrediad a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Poetry Wales, Wales PEN Cymru a Phrifysgol Bangor gyda chefnogaeth arian loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Rhaglen Ewrop Greadigol y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae’r ŵyl cydnabod cefnogaeth hael Prif ddinas Ddiwylliant Latfia, Canolfan Llenyddol Latfia, Gweinyddiaeth Ddiwylliant Gweriniaeth Croatia, Cymdeithas Ysgrifenwyr Croatia, Gweinyddiaeth Ddiwylliant Gweriniaeth Slofenia, Prifysgol Lerpwl, Whistlestop on the Pier a Chaffi Blue Sky Bangor.