Cyhoeddi Bydoedd mewn Bangla

Cyhoeddi Bydoedd mewn Bangla

13 Medi 2016

Ned30

Cyhoeddwyd cyfrol Ned Thomas, Bydoedd, mewn cyfieithiad Bangla.

Enillodd y gyfrol, a ddisgrifir gan yr awdur fel cofiant cyfnod wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011, a’i dethol i Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2012.

Cyhoeddir y gyfrol gan wasg Sampark a’i chyfieithu gan Sunandan Roy Chowdhury a hynny gyda chefnogaeth grant cyfieithu gan Gyfnewidfa Len Cymru.

Nid dyma’r gyfrol gyntaf o Gymru i’w chyfieithu i’r Bangla a’i chyhoeddi gan wasg Sampark. Cyhoeddwyd O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price mewn cyfieithiad yn 2014. Yn 2015, lansiwyd cyfrol o straeon byrion o Gymru mewn cyfieithiad yn ffair lyfrau Kolkata. Ymysg y straeon roedd gwaith gan Francesca Rhydderch, Lloyd Jones, a Deborah Kay Davies.