Cyhoeddi straeon byrion o Gymru yn yr India

Cyhoeddi straeon byrion o Gymru yn yr India

05 Chwefror 2015

Ffair Lyfrau

Cyhoeddir cyfrol o straeon byrion o Gymru yn ffair Lyfrau Kolkata, India gynhelir rhwng 28 Ionawr a 8 Chwefror 2015.

Mae The Anthology of Welsh Short Fiction mewn cyfieithiad Bangla yn cynnwys straeon gan ddeg awdur o Gymru yn cynnwys Francesca Rhydderch, Lloyd Jones a Deborah Kay Davies.

I nodi’r achlysur fe fydd cyhoeddwyr y gyfrol, Sampark yn cynnal digwyddiad arbennig yn Ffair Lyfrau Kolkata yng nghwmni un o’r awduron Siân Melangell Dafydd. Mae’r gyfrol yn ychwanegiad at gasgliad o lenyddiaeth o Gymru a gyhoeddwyd eisoes yn yr India, yn cynnwys cyfrol mewn Tamil gan wasg Kalachuvadu a Malayalam gan D C Books.

Yn hwyrach eleni, cyhoeddir cyfrol Ned Thomas, Bydoedd, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011 mewn cyfieithiad Bangla gan Sunandan Roy Chowdhury a chyfieithiad Saesneg yr awdur, hefyd gan wasg Sampark.

Trefnir y digwyddiad mewn cydweithrediad a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.