30 Ebrill 2014
Ymysg sesiynau fe fydd Angharad Price a Francesca Rhydderch yn sgwrsio am eu gwaith gyda Jon Gower, golygydd newydd Poetry Wales, Nia Davies yn holi Patrick McGuinness a Wu Hong, Dirprwy Brif Olygydd, Shanghai Translation Publishing House am lenyddiaeth byd yng Nghymru a Tseina, a’r bardd Hu Dong yn trafod barddoni mewn Tsinëg.
Fel rhan o’r symposiwm, fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn croesawu cynrychiolwyr o Shanghai Translation Publishing House, cyhoeddwyr Foreign Literature and Art, ar ymweliad â Chymru. Dyma’r wasg sy’n cyhoeddi’r nifer mwyaf o gyfrolau llenyddiaeth byd yn Tseina.
Fel rhan o’i hymweliad, mae’r Gyfnewidfa wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd rhwng cynrychiolwyr y wasg a rhai o olygyddion, cyhoeddwyr ac awduron amlycaf Cymru. Fe fyddant hefyd yn ymweld â rhai o’n sefydliadau cenedlaethol pwysicaf yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Cyngor Llyfrau Cymru.
Mae'r rhifyn hwn o Foreign Literature and Art a olygwyd gan Dr Yan Ying o Brifysgol Bangor yn fenter lwyddiannus ac ystyrlon rhwng Shanghai Translation Publishing House, Cyfnewidfa Lên Cymru a Phrifysgol Bangor. Rydym yn hynod falch bod llenyddiaeth gyfoes o Gymru yn cael ei chyflwyno, am y tro cyntaf, i Tseina.
Mae’r digwyddiad yn rhan annatod o ymdrech barhaus Cyfnewidfa Lên Cymru i ddatblygu cysylltiadau â Tseina ac o'r bartneriaeth lewyrchus a ddatblygwyd gydag Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor.
Darllen Tseina, Cyfieithu Cymru: ddydd Gwener, Mai’r 2ail 2014 yn Ystafell D0:08, Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor, rhwng 12:30 a 20:00.
I fynychu'r symposiwn, cysylltwch â post@cyfnewidfalen.org